Cofnodion deunawfed cyfarfod ar hugain y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfrffyrdd
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
18.00
Aelodau’r Cynulliad yn bresennol:
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) (Ceidwadwyr Cymru, Mynwy)
Julie James AC (Llafur Cymru, Gorllewin Abertawe)
Yn bresennol:
Andrew Stumpf – Glandŵr Cymru
Laura Lewis – Glandŵr Cymru
Jamie McNamara – Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Helen Devitt – Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu
David G Collins
Dawn Roberts
Brian Hancock
Elly Hannigan Popp – Y Cerddwyr Cymru
Margaret Gwalter – Cymdeithas Camlas Abertawe
John Gwalter – Cymdeithas Camlas Abertawe
Gareth Jones – Urban Regen
Donna Coyle
Rob Frowen
Julian Price
Carole Jacob
Martin Buckle – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Dechreuodd y cyfarfod am 18.15
Eitem 1: Cyflwyniad gan Helen Devitt o’r Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu
Ymgysylltu pobl ifanc anodd eu cyrraedd mewn sgiliau a chyflogaeth yng Nghymru
Amlinellodd Helen Devitt gylch gwaith yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu yng Nghymru. Elusen yw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu sy’n helpu pobl ifanc yng Nghymru a Lloegr i adeiladu gwell dyfodol drwy roi mynediad iddynt at gyfleoedd hyfforddi, addysg a chyflogaeth yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r cyflwyniad ar gael ar gais gan enquiries.wales@canalrivertrust.org.uk
Sesiwn holi ac ateb
Andrew Stumpf: A ydych chi’n gweld bod gwahanol ffyrdd o fesur llwyddiant y bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw sydd angen i ni, fel cyflogwyr a mentoriaid, geisio eu deall yn well?
Helen Devitt: Ydw, yn ddi-os. O ystyried y cefndir a’r anawsterau y mae rhai o’r bobl ifanc yr ydym yn eu helpu wedi’u hwynebu, gall hyd yn oed codi o’r gwely ac wynebu’r dydd fod yn gamp aruthrol, ac mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod hynny ac yn gweithio gyda nhw i’w cefnogi i adeiladu eu bywydau.
Nick Ramsay AC: Dywedodd pa mor bwysig yw elusennau fel yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu i Gymru, gan nodi y byddai mwy o waith fel hyn i helpu pobl i mewn i fyd addysg a chyflogaeth yn fuddiol iawn i Gymru.
Jamie McNamara: Rydym wedi canfod bod pobl sydd wedi disgyn allan o addysg a hyfforddiant prif ffrwd yn teimlo cysylltiad cryf â gwaith adeiladu a threftadaeth; a ydych chi wedi cael yr un profiad?
Helen Devitt: Ydw, yn ddi-os. Rydym wedi gweld bod llawer o bobl ifanc sy’n dod atom yn teimlo eu bod wedi dod o hyd i rywbeth sydd wir yn bwysig iddynt, ac maent wir eisiau gwneud yn dda yn y maes hwnnw, sy’n gwneud byd o wahaniaeth.
Eitem 2: Cyflwyniad gan Jamie McNamara, Arweinydd Sgiliau Treftadaeth gyfer yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
NVQ Sgiliau Treftadaeth
Cyflwynodd Jamie McNamara yr NVQ Sgiliau Treftadaeth newydd sydd wedi cael ei lansio gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd, gan ddechrau yn 2014. Rydym yn bwriadu cynnig 14 o gyfleoedd hyfforddiant y flwyddyn mewn saith lleoliad yn cynnwys y Gogledd-orllewin, y Gogledd, y Canolbarth a De Cymru, yn ogystal â Chanolbarth Lloegr a De-ddwyrain Lloegr. Yn ogystal â’r hyfforddeion newydd hyn, rydym yn rhagweld y bydd 100 o weithwyr dyfrffyrdd yn dilyn yr hyfforddiant a bydd May Keir, ein contractwr, hefyd yn rhoi 100 o ymgeiswyr drwy’r dyfarniad sy’n seiliedig ar wybodaeth a 50 drwy’r NVQ.
Sesiwn holi ac ateb
Helen Devitt: A oeddech chi wedi gweld bod bwlch yn y cymwysterau a oedd ar gael cyn hyn?
Jamie McNamara: Oeddwn. Yn flaenorol, nid oedd unrhyw gymhwyster lefel mynediad ar gyfer sgiliau treftadaeth. Roedd yn rhaid i weithwyr ddechrau eu cymwysterau ar lefel 3, a oedd yn aml yn amhosibl i bobl ar ddechrau eu gyrfa. Rydym am i’n gwobrau weithredu fel llwybr gyrfa ar gyfer ein staff gweithredol, hyfforddeion newydd a phawb sy’n gweithio yn ein sector. Hoffem i’r cymwysterau hyn godi safon y gwaith ym mhob maes, gyda sgiliau yn amrywio o weithio gyda bricwaith 200 oed, defnyddio morter calch, gwaith maen a gwaith coed.
Andrew Stumpf: Faint o’r cyfleoedd hyn fydd yng Nghymru?
Jamie McNamara: Rydym wedi recriwtio dau hyfforddai yng Nghymru eleni, ac rydym yn bwriadu recriwtio dau arall flwyddyn nesaf.
Eitem 3: Unrhyw Fater Arall
Dim
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 12 Ionawr 2015.